Ein hanes

Mae Dolen yn ymgynghoriaeth adnoddau dynol yng Ngogledd Cymru, sy'n cwmpasu popeth yma i drawsnewid eich strategaeth pobl.

Tîm proffesiynol, phrofiadol ac empathig gyda gweledigaeth gyffredinol i ddarparu gwasanaethau AD gwych, a fydd yn gadael chi a'ch tîm yn teimlo'n hapus, wedi cael rhyddhad ac wedi eu trawsnewid.

<<< A dyma Leah, ein sylfaenydd, ein Prif Ymgynghorydd AD ysbrydoledig! Mae ei hangerdd dros bobl wedi ei galluogi i gyflawni canlyniadau busnes sy'n ennill gwobrau.

Leah: "Rwy'n cyflenwi pecynnau amrywiol i gyflogwyr o adrannau AD allanol i weithio ar brosiectau pwrpasol. Gyda'r gallu i ddarparu darpariaeth ddwyieithog, mae cynnig Dolen yn hyblyg ac mae gennym fframwaith o becynnau i gefnogi anghenion eich sefydliad. Yn y byd heddiw, mae swyddogaeth AD yn hanfodol; ond gall fod yn faich ariannol. Dyma lle y gall cymorth allanol fod yn fformiwla fuddiol i bawb."

Gyda dros 18 mlynedd o brofiad mewn Adnoddau Dynol, rydym yn angerddol tuag at pobl. Gan weithio ochr yn ochr â Chyfarwyddwyr Cwmnïau neu Hyfforddwyr, gallwn ymgysylltu â staff beth bynnag eu safon, i ddylunio a gweithredu strategaethau sy'n cyflawni canlyniadau busnes sy'n ennill gwobrau.